SL(6)307 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“y Ddeddf TGT”). Mae’r Ddeddf TGT yn sefydlu ac yn nodi’r fframwaith a’r trefniadau gweithredol ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a ddisodlodd dreth dirlenwi’r DU (LfT) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu wedi hynny.

Dyma’r cyfraddau o 1 Ebrill 2023 ymlaen:

-              Y gyfradd safonol yw £102.10 y dunnell (wedi’i chynyddu o £98.60 y dunnell),

-              Y gyfradd is yw £3.25 y dunnell (wedi’i chynyddu o £3.15 y dunnell)

-              Y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £153.15 y dunnell (wedi’i chynyddu o £147.90 y dunnell).

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2023 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau a bennir yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021.

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol

Cafodd y Rheoliadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i’r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Craffu Technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 23.1 (i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru. Awdurdod Cyllid Cymru sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r tair cyfradd ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Adroddiad Polisi Treth Cymru 2022, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, yn cyfeirio at adolygiad annibynnol, a’i ddiben yw gwerthuso effeithiolrwydd y Ddeddf TGT. Mae’r trefniant hwn yn ceisio bodloni’r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd yn ystod trafodion Cyfnod 3 ar gyfer y Ddeddf TGT y dylid cynnal adolygiad annibynnol o’r dreth gwarediadau tirlenwi, yn debyg i’r hyn y cytunwyd arno yng nghyd-destun y dreth trafodiadau tir, sy'n cwmpasu'r dreth gyfan.

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn dweud bod adolygiad annibynnol o'r dreth gwarediadau tirlenwi wrthi’n cael ei gynnal i fodloni’r ymrwymiad hwnnw. Yn benodol, mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

“4.22    An interim report, outlining initial findings, was completed on 30 September 2022 and contained findings drawn from a review of key data and literature. The findings of the interim report are limited, and more detailed research is needed to fully explore the questions we are seeking to answer through the review. However, the interim report highlights the challenge of isolating the impact of LDT in terms of incentivising increases in recycling and reuse of materials, encouraging use of more sustainable technologies and influencing behaviour change across the waste management sector. This is because LDT is one of a range of policy tools which are in place to support the achievement of the Welsh Government’s environmental goals. The role of LDT in working alongside these other policy tools will be explored in more detail during the next phase of the review.

4.23      The final review report is expected to be published towards the end of spring 2023.”

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dibynnu ar Reol Sefydlog 15.4 i gyfiawnhau gosod Memorandwm Esboniadol Saesneg yn unig, ar y sail nad yw’n cael ei ystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau nac yn rhesymol ymarferol ei osod yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai Memorandwm Esboniadol Cymraeg yn helpu unrhyw siaradwyr Cymraeg sydd â diddordeb yng nghefndir a diben y Rheoliadau, a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar eu cyfer.

Dylai Llywodraeth Cymru esbonio pam nad yw’n cael ei ystyried yn briodol nac yn rhesymol ymarferol gosod y Memorandwm Esboniadol yn Gymraeg.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb oddi wrth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt 3.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

4 Ionawr 2023